Synergie Facilities – Facilities management, made simple. We’re ready to help.

Cadeirydd Annibynnol ac Aelodau Annibynnol

Location

Cardiff

Pay rate, Salary

Negotiable

Contract Type

Permanent

Summary

Rydym ni'n falch o fod yn recriwtio Cadeirydd Annibynnol ac Aelodau Annibynnol ar gyfer Panel Buddsoddi newydd Partneriaeth Actif Canolbart...

Job Reference

a1WNz000005CKcnMAG_1792657555

Job description

Rydym ni'n falch o fod yn recriwtio Cadeirydd Annibynnol ac Aelodau Annibynnol ar gyfer Panel Buddsoddi newydd Partneriaeth Actif Canolbarth y De (CSAP).

Mae Partneriaeth Actif Canolbarth y De (CSAP) yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau corfforol ar draws y rhanbarth (Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerdydd a Bro Morgannwg). Mae ein huchelgais yn syml ond yn feiddgar: gwneud symud y corff yn rhan o fywyd bob dydd a chreu rhanbarth hapusach ac iachach.

Mae'r Panel Buddsoddi yn un o bwyllgorau sefydlog y Bwrdd ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi buddsoddiad strategol adnoddau.

Manylion Allweddol

Lleoliad: Hybrid / Canol De Cymru

Tymor: 3 blynedd, a chaiff aelodau wasanaethu am uchafswm o ddau dymor

Ymrwymiad Amser: Yr ymrwymiad a ragwelir ar gyfer y Cadeirydd Annibynnol yw tua 4-6 diwrnod y flwyddyn, ac ar gyfer Aelodau Annibynnol tua 4 diwrnod y flwyddyn.

Cydnabyddiaeth Ariannol: Gwirfoddol. Telir costau teithio a chynhaliaeth ar ein cyfraddau safonol, yn unol â'n Polisi Teithio a Chynhaliaeth.

Trosolwg

Mae'r Cadeirydd Annibynnol yn darparu arweiniad i'r Panel Buddsoddi ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y Panel yn gweithredu'n effeithiol, yn dryloyw ac yn unol â'r Cylch Gorchwyl.

Mae Aelodau Annibynnol yn darparu goruchwyliaeth wrthrychol, arbenigedd allanol a her adeiladol i gefnogi penderfyniadau buddsoddi sy'n sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar draws y rhanbarth. Gan weithio ochr yn ochr ag Aelodau'r Bwrdd, bydd yr Aelodau Annibynnol yn helpu i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei gyfeirio'n dryloyw, yn effeithiol ac yn unol â gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol CSAP.

Mae'r cyfleoedd yn darparu cyfle i ddylanwadu ar sut gall buddsoddi mewn chwaraeon, gweithgarwch corfforol a symud gyfrannu at ganlyniadau gwell i gymunedau ledled Canol De Cymru.

Cyfrifoldebau a Gofynion

I gael rhagor o wybodaeth a'r rhestr lawn o gyfrifoldebau a gofynion, ar gyfer rolau'r Cadeirydd Annibynnol a'r Aelodau Annibynnol, mae'r pecynnau llawn i ymgeiswyr wedi'u hatodi isod:

Pecyn i Ymgeiswyr (Saesneg)

Pecyn i Ymgeiswyr (Cymraeg)

I Wneud Cais

Dylech fod yn ymwybodol y bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol fel rhan o'ch cais:

  1. CV wedi'i ddiweddaru.
  2. Datganiad ategol (heb fod yn hirach nag un tudalen) yn amlinellu pam eich bod yn dymuno ymuno â'r Panel Buddsoddi, a'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad y byddech yn eu cynnig, gan ystyried manyleb y person.

Yn eich datganiad ategol, rhowch wybod i ni os hoffech wneud cais am y swydd Cadeirydd Annibynnol neu gael eich ystyried ar gyfer rôl Aelod Annibynnol.

Dyddiadau allweddol 

Dyddiad cau: Hanner nos, dydd Sul 8 Tachwedd

Cyfweliadau:

Wythnos yn dechrau 23 Tachwedd, dros Microsoft Teams

Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.

Our specialist consultant

Share

Latest jobs

Senior/General Foreman

Acorn Job Icon

Bristol

Acorn Job Icon

Negotiable

Acorn Job Icon

Permanent

Expiry Date

20 November 2026

Job Info

Operator Technicians

Acorn Job Icon

Pencoed, Bridgend

Acorn Job Icon

Up to £18.17 per hour

Acorn Job Icon

Temporary

Expiry Date

20 November 2026

Job Info